Gwefannau Eraill
‘AROLWG ENWAU LLEFYDD GORLLEWIN LLYDAW’ (golygydd cyffredinol ynghyd â Loïc Cheveau)
gwefan 'Hanoiou-lec'hiou Breiz Izel'
Prosiect pellgyrhaeddol yw ‘Hanoiou-Lec’h Breiz Izel’ (‘Arolwg Enwau Llefydd Gorllewin Llydaw’) sy’n anelu cyhoeddi 42 cyfrol yn cynnwys ffurf frodorol leol y 52,000 neu ragor o enwau llefydd Ngorllewin Llydaw (Llyd. Breiz Izel, Fr. La Basse Bretagne) ynghyd â ffurfiau hanesyddol ag o fapiau. Amcenir y bydd cyfrolau cynta’r gyfres yn gweld golau dydd yn 2016. Blaenoriaeth yr Arolwg yw’r gwaith maes a chrynhoi ynganiadau enwau llefydd Gorllewin Llydaw manlle y delir i siarad y Llydaweg, ond dim ond ymysg carfan fythol-ostyngol o hen siaradwyr brodorol ragor.
Nid yw pwysigrwydd crynhoi ffurfiau llafar traddodiadol lleol ar enwau llefydd mor amlwg i astudwyr enwau llefydd yn Lloegr a Ffrainc, gan eu bod hwy wedi arrfer cymaint a thra-phwysigrwydd a estynnir i ffurfiau ysgrifenedig pan fyddant yn astudio tarddiad yr enwau. Fel yn y gwledydd Celtaidd eraill, dylid nodi bod pwysigrwydd dod o hyd i ynganiad enwau llefydd yn fwy pwysig yn Llydaw manlle celwyd a llygrwyd y ffurf wreiddiol Lydaweg dan wisgoedd swyddogol sy’n gamamserol a Ffrengig i raddau gwahanol. Fel ymhob gwlad, crynhoir ffurfiau hanesyddol ar yr enwau gan unigolion a byddant, ymhen amser, yn arwain at gasgliadau cyflawn ond does dim brys penodol. Ar y llaw arall ni ellir dweud hyn am grynhoi ffurfiau llafar traddodiadol lleol ar enwau llefydd a anwybyddir gan astudwyr enwau llefydd yn amlach an pheidio trwy ddiffyg arbenigrwydd a phrofiad.
Gellir canfod llawer i ddirnadaeth ar gymdeithas Lydewig yr Oesau Canol oddi wrth astudiaeth o’r enwau llefydd sy’n dal i fodoli heddiw. I roi dwy engraifft: (1) yr enghreifftiau gweddol niferus o Merdi ‘maerdy’ (cymharer y Maerdy niferus yng Nghymru); ac (2) yn yr enw lle Crec’h-metern (Saint-Fiacre, 22) cewn gadarnhad bod affeithiad llafarog yn Llydaweg yn union fel ei chytras Cernyweg mytern a Chymraeg mechdeyrn, rhywbeth nad sy’n amlwg o’r ffurf Hen Lydaweg adnabyddus machtiern ‘pennaeth lleol’.
Dyma ddetholiad o gyd-destunau a ddylai fod yn ddigonol i arddangos y cyfiawnhad o grynhoi ffurfiau llafar traddodiadol lleol yng Ngorllewin Llydaw.
1. Ffurf Lydaweg a gelir gan y ffurf swyddogol.
Adnabyddir Saint-Vital (Plounévézel 29) yn Llydaweg yn lleol fel Zann Waren, sant a nodid fel Guarhen ym Muchedd Corentin Sant ac un a gysylltid â Gradlon, brenin lled-chwedlonol Kerne yn yr Oesau Canol cynnar. Deuir o hyd iddo eto o dan wisg Ffrengig fel Saint-Voirin (Le Cloître-Pleyben 29). Ar adegau ni fydd perthynas rhwng y ffurfiau swyddogol (hyd yn oed ffurfiau Llydaweg) â’r ffurfiau a arddelir yn lleol, er engraifft Ribourti yw ffurf leol Roc’h-ar-burtul (Maël-Carhaix 22) a Rest-ar-gwenneg yw ffurf leol Restgoaler (Spézet 29).
2. Ffurfiau swyddogol sydd ond yn gyfieithiadau.
Yn lleol, ar Gerneve yw la Villeneuve (Plestin-lès-Grèves 22); ar Hefkoz yw Vieux-Tronc (Plouyé 29).Mae sawl engraifft tebyg ymhob plwyf yng Ngorllewin Llydaw
3. Ffurfiau swyddogol yn gyfieithiadau rhannol.
Bois-Château (Canihuel 22) am Koed-ar-hyesten ‘coed y castan’; la Butte-du-cheval (Motreff 29) am Lost Krec’henn-ar-marc’h.
4. Amwysedd ffurfiau swyddogol.
Ym mhlwyf Glomel (22) ar Gerveur a Gwerderyen, yw y Guermeur a'r Guerderrien swyddogol; un yn cynnwys kêr ‘tre’ a'r llall gwern ‘cors’. Mewn plwyf arall (La Chapelle-Neuve 22) mae'r Guermeur swyddogol yn cynrychioli ar Verveur ‘y gors fawr’.
5. Ffurfiau swyddogol yn cynrychioli Llydaweg canol oesol.
Mae llawer o ffurfiau swyddogol yr enwau llefydd Llydaweg yn mynd yn ôl i gyfnod y Canol Oesau diweddar a adlewyrchir hyn yn niogeliad y ffurf gysefin ar gytseiniaid sy’n treiglo fel oedd yr arfer wrth ysgrifennu Llydaweg Canol. Dyma enghreifftiau o hyn: Kervarzin yw Kermarzin (Plounévézel 29); Lezvêz yw Les Mais (Callac 22); Tralvên yw Trémalvézen (Glomel 22); Kerzaoreg yw Kerdaffrec (Spézet 29) yn lleol.
6. Celu ffurfiau Llydaweg ar enwau llefydd â haniad Ffrangeg.
Mae Richemont (Cléden-Poher 29) a la Fonderie (Poullaouen 29) yn celu’r ffurfiau Llydaweg Richimont ac ar Vondiri sy’n dangos aceniad ac ynganiad gwahanol, ac hefyd yn cynrychioli addasiad seinegol Llydaweg ac ôl ffosiledig o hen ynganiad Ffrangeg.
7. Ffurf Lydaweg ‘swyddogol’ wallus.
Yn dilyn dechreuadau petrus yn y 1960au cynnar, mae ffurfiau Llydaweg ar enwau llefydd wedi dod yn fwy cyffredin ar arwyddion ffyrdd, ynghŷd â chyflwyniad canllawiau orgraffyddol y Llydaweg Modern ar enwau llefydd, weithiau’n ddigon di-drefn sy’n esgor ar gymysgeddau annaturiol. Mae enghreifftiau o’r ‘Llydewigo’ hyn yn bell o fod yn ddelfrydol. Engraifft digon cyffredin yw’r methiant i foderneiddio y fannod bendant Llydaweg Canol am i ar yn Kerampuilh am y ffurf swyddogol Kerampuil (Carhaix 29) neu yn Keramborn am Keramborgne (Le Vieux-Marché 22). Yn Llydaweg Modern ac yn ngenau’r siaradwyr brodorol lleol y ffurf gywir ar yr enwau hyn yw Ker (ar) Puilh a Ker (ar) Born. Ar ben hynny, oddi ar 1999, y ffurf anghywir ‘Kerampuilh’ yw’r un a roddwyd ar safle yr ysgol uwchradd (lycée) gyfrwng Llydaweg gynta yn Llydaw ac - am flynyddau - ar bencadlys Ofis (Publik) ar Brezhoneg, yr asiantaeth lled-swyddogol sy’n hybu’r Llydaweg yn Llydaw (sydd hefyd fel rhan o'u gweithredu yn cynghori'r awdurdodau a phawb arall ar siẁd i ysgrifennu ffurfiau Llydaweg enwau llefydd).
8. Llefydd nad adwaenir ar fapiau neu mewn rhestrau enwau llefydd.
Fel ymhobman yn y byd, mae nifer o enwau llefydd Llydaweg na welir ar fapiau neu restrau swyddogol. Nid mân enwau llefydd pob un o’r rhain.
Dyw’r enghreifftiau a roddwyd uchod ond yn dechrau dangos y ffordd y mae adnabyddiaeth o’r ffurf lafar leol yn angenrheidiol i ddyall ystyr a gwerthfawruso y diwylliant sydd ynghlwm â’r enwau llefydd Llydaweg. Ni fydd y rhai hynny sy’n gyfarwydd â ffurfiau swyddogol y Gymraeg a Gwyddeleg yr Alban ym Mhrydain yn gwerthfawrogi dwyster y broses o ffrengigo a weithredwyd ar enwau llefydd Llydaw mewn dogfennau hanesyddol, cartograffig a swyddogol oddi ar y Canol Oesau diweddar.
Ar wahân i’r cyfiawnhad ieithyddol llym dros grynhoi ffurfiau llafar, mae astudiaethau methodegol o enwau llefydd wedi diodde yn gyffredinol o’u cyfyngu i ymchwiliadau llyfrgellyddol ac archifol ar draul gwaith maes. Mae esgeuluster gwaith maes yn aml yn arwain arbenigwyr enwau llefydd i wneud camgymeriadau enbyd yn eu dehongliadau a ellid eu hosgoi mor hawdd wrth gymryd y gofal o holi ac ymgynghori â’r boblogaeth leol ac elwa o’u gwybodaeth.
Er y rhoddwyd blaenoriaeth i raglen o waith maes mewn ardaloedd na archwiliwyd (gweler isod) bwriadir yn gystal paratoi y deunydd a grynhowyd ar gyfair ei gyhoeddi yn ôl ardaloedd sy’n cyfateb yn fras i ddau neu dri canton a roddith rhywbeth fel 100-i-150 tudalen i bob cyfrol (ardal weinyddol swyddogol yn Ffrainc yw canton sy’n cynnwys rhwng chwech a phymtheg plwyf). Heblaw cynnwys trawsygrifiad seinegol IPA o ynganiadau enwau llefydd, bydd y rhestrau enwau llefydd yn cynnwys ffurfiau dogfennol oddi wrth fapiau Cassini o’r ddeunawfed ganrif ddiweddar, mapiau stentaidd (cadastre) y plwyfi sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gynnar, a mapiau swyddogol yr ugeinfed ganrif, ac hefyd – mor belled ag yw hi’n bosibl – ffurfiau diweddar a lydewigiwyd a geir ar arwyddion ffyrdd. Manlle bydd ffynonellau hylaw ar gyfair hen ffurfiau hanesyddol mi gynhwysir y rhain hefyd. Rhoddir yr enwau llefydd yn nhrefn yr wyddor o dan y plwyf perthynol a mi leolir pob enw lle o fewn llai na can medr yn ôl y rhwydwaith cilomedrig UTM (Universal Transverse Mercator) a gydnabyddir ar y mapiau swyddogol Ffrengig.
Fel dengys y map isod, casglwyd ynganiad lleol enwau llefydd mewn tua 33 y cant o’r tiroedd Llydaweg ei hiaith, ond erys tua 66 y cant o’r tiroedd hynny heb eu crynhoi. Plwyfi (communes) yn ôl gweinyddiaeth y llywodraeth) yw’r ffiniau a welir ar y map.
Dynoda’r ardaloedd a liwiwyd yn las plwyfi manlle casglwyd ynganiadau o’r enwau llefydd a gyhoeddwyd (Madeg; Denez; Rouz) – Mikael Madeg, wrth gwrs, yw’r arloeswr a gwplodd y gwaith o grynhoi ynganiadau enwau llefydd yn nhalaith ogledd-orllewinol Leon a’u cyhoeddi (ad-drefnir gwaith Madeg yn ôl y plwyfi yn unol â chynllun yr Arolwg). Dynoda’r ardaloedd a liwiwyd yn wyrdd ac yn felyn plwyfi manlle casglwyd y cyfryw ond na'u chyhoeddwyd hyd yn hyn (Humphreys; Goyat; German; Cheveau). Mae’n rhan o’r prosiect wedi’i neilltuo i gyhoeddi y casgliadau hyn ochr yn ochr a chasgliadau’r gwaith maes a ddisgrifir fan hyn. Canlyniad i’r crynhoi a wnaeth fy nhad, Humphrey Lloyd Humphreys, yn y 1970au a’r 1960au yw’r ystod eang o wyrdd yng nghanolbarth Llydaw, sy’n cynnwys recordiadau a thrawsysgrifiadau. O ganlyniad i drawiad a ddioddefodd rhai blynyddau’n ôl ni all e gwpla cyhoeddi y casgliadau yn ei archif bersonol ei hunan. Mae hi’n fwriad gen i gyflawni hyn.
Er 2001, cyflawnwyd llawer o waith-maes gan Ofis Publik ar Brezhoneg gan gwpla casgliadau o ynganiadau enwau llefydd mewn 63 plwyf hyd yn hyn [2018]. Mae'r rhan fwya yn eithafion de-orllewinol esgobaeth Kerne, esgobaeth Gwened a'r rhan hynny o esgobaeth Kerne sy'n ffinio ag esgobaeth Gwened (mae'r plwyfi a gyhoeddwyd gan yr Ofis - er nad oes modd bob tro i gael gafael ynddynt - wedi'u lliwio'n orenj, tra bod y plwyfi heb eu cyhoeddi wedi lliwio'n llwyd). Llwyddodd Loïc Cheveau i recordio ynganiad enwau llefydd yn nhri-chwarter esgobaeth Gwened (wedi'u lliwio'n felyn).
Gellir dyall y brys sydd ynghlwm â rhaglen o waith-maes ar yr enwau llefydd mewn termau demograffeg moel. Oherwydd y diwedd ar drosglwyddiad yr iaith er budd y Ffrangeg yn y 1950au, mae nifer y siaradwyr Llydaweg brodorol yng Ngorllewin Llydaw wedi bod yn gostwng ar raddfa bendronus o leia 10 y cant bob o ddegad:
- 1950 77%
- 1960 66%
- 1970 55%
- 1980 44%
- 1990 33%
- 2000 22%
- 2010 11%
Ni roddir ffigurau iaith yng nghyfrifiad swyddogol Ffrainc, ac o ganlyniad mae’r ffigurau a roddir uchod mewn ffont eidalig yn ôl-gyfrifon (retrocalculations) a sylfaenwyd ar amcangyfrif am y flwyddyn 1952 ac ar arolygon a gyflawnwyd ym 1999 a 2009 (gweler Fanch Broudic 2009 Fanch Broudic 2009 Parler breton au XXIe siècle (Brest: Emgleo Breiz): 33, 133). Canlyniad ymarferol hyn yw nad erys braidd neb o dan 55 oed sy’n siaradwr Llydaweg iaith-gynta a mewn plwyf gwledig â phoblogaeth o 1,000 ni all yr ymchwilydd enwau llefydd obeithio am ragor na 150 siaradwr, a mewn plwyf gwledig gyda phoblogaeth o 300 ni fydd rhagor na 45 siaradwr. Ac ar ben hynny nid yw rhuglder y siaradwyr Llydaweg cyfoes yn gyfartal; yn gyffredinol, bydd Llydaweg y rhai henach na 80 (a anwyd ym 1930 neu’n gynharach), mae’n amlwg, yn lalwer gwell na siaradwyr ifancach na 60 (a anwyd ym 1950 neu’n ddiweddarach), gan fod y Ffrangeg ar ei ffordd i fod yn iaith benna gyfathrach Gorllewin Llydaw benbwygilydd erbyn diwedd y 1950au; a gwelwn, mewn sawl achos, bod hyd yn oed y siaradwyr hena wedi bod yn arfer y Ffrangeg yn fwyfwy wrth i’w cylchau cyfathrach agosa droi’n llai Llydaweg. Mae dirywiad parhaus a diochel yn niferoedd y siaradwyr brodorol Llydaweg, yn tanlinellu’r brys a berthyn i raglen gwaith maes i grynhoi fersiynau Llydaweg yr enwau llefydd Llydewig ac yn cyfiawnhau y ddatganiad dramatig a ganlyn:
Erbyn 2015 bydd hi’n anodd iawn, ac erbyn 2020 bydd hi ymron yn amhosibl i grynhoi casgliad cynhwysfawr o enwau llefydd Llydaweg yn eu ffurfiau gwreiddiol brodorol, a byth wedi hynny ni fydd modd llanw’r bwlch yn yr amcan llesol hyn ynglŷn ag enwau llefydd Llydaweg …