Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Ymchwil a Chyfieithiadau— Iwan Wmffre
Yn ôl dyddiad

PYNCIAU YMCHWIL

*

IEITHYDDIAETH

DYNAMIC LINGUISTICS

2013a Dynamic Linguistics: Labov, Martinet, Jakobson and other Precursors of the Dynamic Approach to Language Description, Bern – Berlin – Bruxelles – Frankfurt-am-Main – New York – Oxford – Wien: Peter Lang (xxvi + 589 tt) ISBN 978-3-0343-1705-4 (£65/€81)

Mae dadansoddiad o iaith fel cyfuniad o gyfansoddyn strwythurol a chyfansoddyn geirfaol yn anwybyddu un agwedd hollgymhwysfawr arall: deinamigrwydd. Mae Dynamic Linguistics yn mynd i’r afael â disgrifiad yr iaith ddynol, y ffenomen gymhleth hynny, trwy ganolbwyntio ar yr agwedd bwysig hyn a esgeulusir yn rhy aml.

Mae’r llyfr hyn yn cofnodi datblygiad yr adnabyddiaeth hwyrfrydig a roddid i bwysigrwydd cydamseroldeb deinamig yn ieithyddiaeth yr ugeinfed ganrif ac yn trafod dau gysyniad allweddol arall â rhyw drylwyredd: cymuned iaith a strwythur iaith. Oherwydd eu pwysigrwydd hanfodol yn natblygiad dyalltwriaeth y dull deinamig o ddadansoddi iaith, rhoddir sylw neilltuol i’r ieithyddion William Labov, André Martinet a Roman Jakobson, ac yn fwy penodol i ysgrifau mwya diweddar Martinet – a anwybyddwyd yn y byd Saesneg – gan y ceir yno y gwerthfawrogiad llawnaf, hyd yn hyn, i ddeinamigrwydd iaith. Gwneir ymdrech ddifrifol i gofnodi y rhagflaenyddion, rhwng y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 1970au, a ddarparodd ysbrydoliaeth i’r tri ieithydd hyn wrth iddynt ddatblygu y dull deinamig o ddadansoddi a disgrifio ieithyddol.

Bwriedir y dull deinamig i ieithyddiaeth yn atgyfnerthiad i ddyalltwriaeth strwythuriaid ffwythiannol, tafodieithegwyr, sosioieithyddwyr, a phob math arall o ieithydd ag anian empiraidd, oddi fewn i fframwaith damcaniaethol llydanach ac hefyd i gyfrannu at wrthdroi gorffurfiolaeth y fframwaith strwythurol gorsyml sy wedi bod yn ben, ac sy’n dal i dra-arglwyddiaethu, ar ddisgrifiad ieithyddol y dydd heddiw.

Adolygiadau ac Ymatebion

2014 Deli Lara Peña ar LinguistList website.

2015 Doug Trick ar SIL Electronic Book Reviews 2015-001.

Oddi ar ei gyhoeddi yn 2013, rw i wrthi’n gweithio ar ail-olygiad fydd yn cynnwys gwelliantau (i’w gyhoeddi’n gynta yn y Ffrangeg ac wedyn yn y Saesneg).

*

SEINEG A THAFODIEITHEG Y GYMRAEG

A DYNAMIC DESCRIPTION OF LAMPETER WELSH

ar y gweill A Dynamic Description of Lampeter Welsh: The Traditional Language i'w gyhoeddi gan Catamanus (1,500+ tt).

Anelir at ddisgrifiad seinegol, gramadegol a chystrawennol lawn o’r iaith Gymraeg yn ardal Llanbedr Pontsteffan, Ceredigion. Dyma ardal sy’n ddaearyddol-ganolog yn Ne Cymru ond sy hefyd yn cynrychioli estyniad mwya gogleddol llawer o nodweddion iaith a ystyrir yn gyffredinol yn Gymraeg ddeheuol. Saf yr ardal i’r gorllewin o’r cyntedd helaeth o fynyddau rhosog sy’n cynrychioli asgwrn cefn mynyddig Cymru ac, i raddau helaeth, sy wedi’i amddiffyn o ddylanwadau Saesneg.

Nid yn unig bydd y disgrifiad yn delio â phrif nodweddion y Gymraeg a geir yn yr ardal hyn ond amcenir hefyd rhoi sylw i’r amrywiaethau (to oedran, cyweiriol, tafodieithol) yn yr iaith leol mewn ymgais i ddyall cyd-destun yr amrywiaethau o fewn yr iaith honno yn ei chyfanrwydd. Amrywiaethau – boed seinegol, boed gramadegol, boed cystrawennol – a astudir yn ôl oedran, lleoliad daearyddol a dylanwad llenyddol.

Dyma fydd, debyg, yr astudiaeth ddeinamig gynta ar dafodiaith o’r Gymraeg. Dangosir nad oes un sustem fel y cyfryw yng Nghymraeg ardal Llanbedr ond plethwaith o sustemau ieithyddol yn cyd-fodoli ar draws ei gilydd ar wahanol lefelau o’r iaith ac mewn brwydr ‘parhaol’ i sustemeiddio iaith yr ardal honno. Astudir cyfuchlinau deinamig Cymraeg Llanbedr er mwyn penderfynu pa ffurfiau sy’n enciliol a pha rai sy’n ymledol. Dadansoddir y deunydd ieithyddol, ar sail samplau o’r iaith go iawn, yn ôl blaenoriaethau ffwythiannol, a chymerir gofal mawr i wahaniaethu ffurfiau cynrychioladol o’r iaith lafar oddi wrth ffurfiau sy’n cynrychioli’r iaith lenyddol.

Yn chwaneg, rhoddir sylw hefyd i Saesneg trigolion brodorol Llanbedr ac hefyd i’r tafodieithoedd Cymraeg cysylltiedig a siaredir y tu draw i’r Mynydd Mawr yn sir Frycheinog a sir Faeshyfaid.

adol. WELSH PHONETICS (2001)

2007f Adolygiad ar Martin J. Ball & Briony Williams (2001) Welsh Phonetics, Lewiston, NY – Queenston, Ontario – Lampeter, Wales: Edwin Mellen, in Zeitschrift für celtische Philologie cyf.55 tt.301–07

er mwynto darllen yr adolygiad

adol. THE PHONOLOGY OF WELSH (2007)

2014a Erthygl-adolygiad ar Stephen J. Hannahs (2007) The Phonology of Welsh, Oxford: Oxford University Press, in Journal of Celtic Linguistics cyf.16 tt.119–39

OLD WELSH DIALECTAL VARIATIONS ...

2013c Old Welsh Dialectal Variations preserved in Toponymy, Belfast: Appletree Press (33 tt) ISBN 978-1-84758-1518

Wrth archwilio tarddiad gwahaniaethau seinegol tafodieithol y Gymraeg tueddir i ddeall y bu llai o amrywiaeth yn yr amseroedd gynt. Gwelir, er enghraifft, bod yr amrywiaethau modern doi a day yn deillio o un ffurf a ysgrifennid dou mewn Hen Gymraeg ac nad oedd y gwahaniaeth cyfoes rhwng dou y de a dau y gogledd yn bod y pryd hynny. Gellid felly meddwl nad oedd gwahaniaethau tafodieithol yng nghyfnod yr Hen Gymraeg ond yn wir mae tystiolaeth sy’n ein harwain ni i feddwl y collwyd gwahaniaethau tafodieithol a fodolai gynt: gwahaniaethau a oroesodd ond mewn ambell i enw lle. Bwriad yr erthygl hon yw trafod rhai o’r hen wahaniaethau tafodiethol hyn a’r enwau lleoedd lle’u cedwir.

THE QUALITIES AND THE ORIGINS OF THE WELSH VOWEL [ɨ]

2013b The Qualities and the Origins of the Welsh Vowel [ɨ], Berlin: Curach Bhán (xx + 172 tt) ISBN 978-3-942002-12-7 (€25)

Y sain [i] (sef <u> ac <y> yr orgraff Gymraeg) yw’r sain fwya dyrys ei dynodiad a’i haniad yn y Gymraeg. Ceisir olrhain gwireddiad y sain yn nhafodieithoedd Cymru, ei union natur seinegol ac yna cyfrif am ddatblygiad y sain yn y Gymraeg o’i rhagflaenwyr yn y Frythoneg.

Map gwreiddiol yn dangos dosbarthiad [ɨ] (gwyrdd golau yn y gogledd) ac [i] (gwyrdd tywyll yn y de) sy'n cyfateb i'r llythrennau'r Gymraeg <u> ac <y> (yr ola mewn safle diweddol).

LANGUAGE AND PLACE-NAMES IN WALES

2003a Language and Place-names in Wales: the Evidence of Toponymy in Cardiganshire, Cardiff: University of Wales Press (xii + 447 tt). ISBN 0-7083-1796-0 (£60)

Mae’r llyfr hwn yn trafod datblygiad y Gymraeg o’r Canol Oesau hyd y dydd heddiw ac mae’n gymar i Language and History in Early Britain K. H. Jackson (1953) a A Welsh Grammar J. Morris-Jones (1913), gan na thrafododd y rhain yn fethodegol â datblygiad y Gymraeg ar ôl y Canol Oesau. Mi’i dderbyniwyd fel testun doethuriaeth gan Brifysgol Cymru ym 1998 (Abertawe) – yr Athro Brynley Roberts o Brifysgol Cymru a Dr. Oliver Padel o Brifysgol Caergrawnt oedd yr arholwyr.

Prif fwriad y gwaith yw canlyn ac egluro – manlle gellir – beth a fu’r datblygiadau seinyddol er y ddeuddegfed ganrif (ac, mewn rhai achosion, cyn hynny) a sut a pham y digwyddasant. A chan fod enwau llefydd wedi’u hangori mewn amser yn ogystal a mewn lle cred yr awdur bod astudiaeth sy’n pwyso ar enwau llefydd yn rhoi sylfaen gwahanol – a mwy dibynadwy – na thestunau llenyddol i ddilyn datblygiadau mewn iaith. Man lleia mae astudiaeth enwau llefydd yn cynnig darlun mwy cytbwys o esblygiad iaith nag astudiaethau wedi’u seilio’n unig ar dystiolaeth lenyddol. Serch hynny, ni anwybyddwyd tystiolaeth lenyddol, ac ni all y cyfuniad o’r ddau fath o dystiolaeth ond cyfoethogi ein dealltwriaeth o gymlethdodau a deinameg datblygiad iaith. Tua diwedd y llyfr mae’r awdur yn cynnig esboniadau ar berthynas llenyddiaeth y Gymraeg Canol â iaith lafar y cyfnod.

Dylai’r llyfr fod yn ddefnyddiol i’r sawl sydd â diddordeb yn hanes Cymru: yn gynta, i’r rhai sy’n astudio enwau llefydd sy’n ceisio dod o hyd i eglurhad ar enwau llefydd tywyll mewn ardaloedd eraill yng Nghymru; yn ail, i unrhywun sy’n ceisio lleoli haniad llawysgrifau drwy nodweddion mewnol eu Cymraeg; yn drydydd, i’r rheiny sydd â diddordeb cyffredinol â mhroblemau yn ymwneud â chymlethdodau datblygiad iaith mae’r llyfr yn cyflwyno gwybodaeth wedi’i threfnu mewn ffordd hygyrch at bwrpasau cymharol; ac, yn ola, ar gyfer nodi’n fanwl nodweddion seinegol y Gymraeg yn nodiant seinegol yr IPA (International Phonetic Association), ynghyd â thrafodaeth a chymhariaeth o’r amrywiol gonfensiynau a fabwysid gan seinegwyr Cymraeg ers canrif a hanner, gyda’r canlyniad yr argymhellir ambell i welliant i’r nodiant IPA yn y Gymraeg.

Seiliwyd y casgliadau yn benna ar gorff o 15,000 o enwau llefydd o Sir Aberteifi (Ceredigion) – sy’n gorchuddio tua degfed ran o arwynebedd Cymru – a chyfeirio helaeth at dystiolaeth enwau llefydd o bobman yng Nghymru. Bu’r awdur wrthi’n ddiwyd yn holi hen frodorion ym mhob ardal yn Sir Aberteifi (a thu faes) ynghyd â chrynhoi tystiolaeth hanesyddol o ddogfennau mewn sawl llyfrgell.

Adolygiadau ac Ymatebion

G. R. Isaac 2004 (Ymateb i G. R. Isaac 2004)

P. Russell 2005 (Ymateb i P. Russell 2005)

addenda & corrigenda

THE WELSH DIALECT SURVEY

2000. Alan R. Thomas (gol.) The Welsh Dialect Survey, Cardiff: University of Wales Press ISBN 0-7083-1617-4 (£40, maes o brint)

NODYN O EGLURHAD: Dylid egluro er taw plentyn yr Athro Alan Thomas oedd prosiect y ‘Survey of Welsh Dialect Phonology’ (SWDP) a arweiniodd at y llyfr hyn, er ei bod hi hefyd yn ffaith i fi gael fy nghyflogi fel dirprwy iddo o’r dechrau i’r diwedd fel gweithiwr maes a golygydd ac fy mod i’n gyfrifol am lawer o’r penderfyniadau golygyddol a trawsysgrifiadol (er na wneir hyn yn eglur yn y cyhoeddiad ei hunan). Er yr esgeulustod niweidiol rhag sôn am bwysigrwydd fy nghyfraniad yn y gwaith – niweidiol gan fy mod i y pryd hynny ar ddechrau fy ngyrfa academaidd – roen i’n prisio cymeriad Alan Thomas a’i reolaeth o’r prosiect ac yn dal i gofio gydag anwylder fel ffrind yn gymaint a fel cyfarwyddwr. Goblygiad ei farw ddisymwyth yn 2005 oedd i’r trawsysgrifiadau-maes gwreiddiol gael eu colli er y gwnawd copïau triphlyg ohonynt. Diolch i’r drefn, diogelwyd un set o’r recordiadau tâp (recordiadau a gopïwyd yn driphlyg hefyd!) yn Amgueddfa Werin Sant Ffagan ger Caerdydd.

Esgorwyd ar y syniad o SWDP gan Alan Thomas yn 1970au yn dilyn cyhoeddiad ei Linguistic Geography of Wales (LGW) ym 1973. Roedd LGW wedi crynhoi eitemau trwy bostio holebau ac wedi canolbwyntio ar amrywiaethau geirfaol, a thrwy hynny golli’r manylder seinyddol y mae ieithyddion y dydd heddiw yn eu disgwyl. Yn ymwybydol o’r bwlch yn ein gwybodaeth, mi ddechreuodd Alan Thomas gynllunio arolwg newydd a fyddai’n cael ei weithredu gan ymwchwilwyr tafodieithol llawn-amser. A dweud y gwir roedd prosiect i wireddu atlas seinegol/ffonolegol o dafodieithoedd y Gymraeg wedi cael ei ystyried mor bell yn ôl â chanol y 1950au gan T. Arwyn Watkins, darlithydd yn y Gymraeg yn Aberystwyth. Yn wir, roedd y prosiect hwnnw wedi dechrau ymffurfio; gweler erthyglau Watkins: ‘Linguistic atlas of Welsh’ (1955), ‘Background to the Welsh dialect survey’ (1962) a ‘Dialectology’ (1963). Roedd Watkins yn un o ddarlithyddion Alan Thomas yn Aberystwyth yn y 1950au, a mi gyfarwyddodd e draethawd MA Thomas ar dafodiaith Crai (sir Frycheinog) a thrwy hyn i gyd mi allwn weld fod yr SWDP wedi cael ei grybwyll mewn ffurf neu’i gilydd o fewn sefydliad Prifysgol Cymru dros 35 mlynedd cyn i Fwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol roi yr arian i allu sefydlu’r prosiect.

Rhoddwyd y SWDP ar waith ym 1991 a pharodd hyd 1997. Cyflogwyd dau ymchwilydd – Esther Rees ac Iwan Wmffre – a mi’u cyfarwyddwyd gan is-bwyllgor tafodieithoedd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru o dan Alan Thomas (cynhwysai darlithyddion Cymraeg Prifysgol Cymru a oedd â diddordeb mewn tafodieitheg: David Thorne, Llanbedr Pontsteffan; Robert Owen Jones, Abertawe; Peter Wynn Thomas a Glyn E. Jones, ill dau o Gaerdydd). Anfonwyd yr ymchwilyddion i gyfweld a recordio 726 eitem o wahanol leoedd ar hyd a lled Cymru gan gyrraedd, erbyn y diwedd, 117 o leoliadau wedi’u gwasgaru’n lled gyfartal gyfagos ar hyd a lled y Gymru Gymraeg (mi fyddid wedi cynnwys Libanus, lleoliad ar y ffin ieithyddol ar bwys Aberhonddu, ond bu farw y siaradwr yno, Brychan Williams, cyn y drydedd ymweliad a ni lwyddodd ymholiadau pellach i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg lleol eraill).

Geiriau unigol oedd y rhan fwya o’r eitemau a gasglwyd gan SWDP, wedi eu trefnu yn ôl gofynion seinyddol fel llafariaid, cytseiniaid, clymau cytseiniol, taflodiad, treigladau a.y.y.b. Ymddangosai y nodweddion a geisid nifer o weithiau mewn eitemau gwahanol a thrwy’r maint a’r dewis o eitemau llwyddwyd i gasglu digon o ddeunydd i alluogi ieithyddion i ddyfarnu sustemau seinyddol sylfaenol 117 o wahanol dafodieithoedd Gymraeg. Roedd yr atebwyr i gyd yn lleol ac wedi eu geni rhwng 1900 a 1938 (y rhan fwya rhwng 1910 a 1930):

  • 1900–09 20 siaradwr
  • 1910–19 47 siaradwr
  • 1920–29 42 siaradwr
  • 1930–39 8 siaradwr

Defnyddiwyd y recordiadau gwreiddiol ar gasèt i wneud trawsygrifiadau a mi chwanegwyd sgwrs awr a’r atebyddion ar gasèt atynt o bob lleoliad. Gweithredwyd holiadur morffolegol mewn rhyw 26 o leoliadau ar hyd y Gymru Gymraeg mewn rhwydwaith teneuach na’r arolwg sylfaenol. Ni chyhoeddwyd yr holiaduron morffolegol gan na’u hystyrrid yn rhan o amcanion sylfaenol SWDP ond serch hynny dyellid na ddelai eto, efallai, y fath gyfle i weithredu casgliad cymharol o forffoleg llafar gwahanol dafodieithoedd y Gymraeg.

Gweithredwyd y rhan fwya o’r gwaith-maes rhwng diwedd 1991 a 1994. Neilltuwyd y rhan fwya o’r cyfnod rhwng 1995 hyd 1997 at drawsysgrifo’r eitemau a pharatoi’r testun ar gyfer ei gyhoeddi, gydag ambell i gyrch o waith-maes i gyflawni neu i adolygu bylchau yn y recordiadau yn y cyfnod hwn. Dyfeisiwyd y gronfa-ddata gyfrifiadurol ar gyfer SWDP gan Cathair Ó Dochartaigh, a drigai y pryd hwnnw ym Mangor, ac roedd yn sylfaenol debyg i’r gronfa-ddata a ddefnyddiwyd ganddo i olygu pum cyfrol The Survey of the Gaelic Dialects of Scotland (SGDS) rhwng 1994–97. Roedd gan Alan Thomas gynlluniau i gyflawni arolwg meintiol ar y deunydd ffonolegol a roddwyd mewn i’r gronfa-ddata yn unol â’r cynllun a ddisgrifiodd yn ei gyhoeddiad Areal Analysis of Dialect Data by Computer: a Welsh Example (1980). Goblygiad marwolaeth Ó Dochartaigh a dechrau’r gorffwylltra a’i orfododd i adael Prifysgol Glasgow yn 2004 oedd i’r ffeiliau cronfa-ddata gwreiddiol fod yn annefnyddiadwy. Erys dosbarthiad ffonolegol defnyddiol o eitemau’r WDS yn ôl cyd-destun safle a ofynnodd Alan Thomas i fi wneud er na lwyddodd erioed i fanteisio arno: meddylais i y byddai cystal i fi ei gynnig ar ddolen gyswllt ar y wefan hon i bwy bynnag liciai manteisio arno (gweler isod).

Cyflogwyd fi am y rhan fwya o’r cyfnod rhwng 1991 a 1997 (heblaw am doriad pan fuais i’n casglu deunydd sosio-ieithyddol ym Mhontardawe yn ddiweddar ym 1993 ar gyfer prosiect o eiddo’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth a gychwynnwyd gan Mari C. Jones, ac sy’n anghyhoeddedig a mwy na thebyg yn anorffenedig). Buais i’n gyfrifol gydag SWDP am gasglu gwybodaeth ar hyd ganolbarth Cymru o Dŷ-Ddewi i Aberhonddu, o Abermo hyd sir Fflint ac o Lanelli hyd Llanelian-yn-rhos ger Llandudno, gan weithredu fân ymholiadau yn sir Fôn, sir Gaernarfon a sir Forgannwg (lle casglais i’r deunydd am Glynogwr).

dosbarthiad ffonolegol eitemau WDS

*

SEINEG A THAFODIEITHEG Y LLYDAWEG A’R GERNYWEG

BRETON ORTHOGRAPHIES AND DIALECTS

2007a Breton Orthographies and Dialects: the Twentieth-century Orthography War in Brittany, vols.1–2, Bern – Berlin – Bruxelles – Frankfurt-am-Main – New York – Oxford – Wien: Peter Lang (Series: Contemporary Studies in Descriptive Linguistics) (xxviii + 782 tt) cyf.1 ISBN 978-3-03911-364-4 & cyf.2 978-3-03911-365-1

(Here one can see Peter Lang's awful cover concept which adheres to their thematic series and my own original cover design.)

Ceisia’r llyfr hwn ddilyn datblygiad confensiynau orgraffyddol y Llydaweg. Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu ymgais ddi-baid i ddod o hyd i orgraff foddhaol i’r iaith. Bu dadleuon brwd rhwng carfannau yn ymestyn rhwng pegwn deddfol a phegwn eangfrydig. Cyrhaeddodd y dadlau ryferthwy eitha pan gytunodd carfan amlwg o genedlaetholwyr i ymgynghreirio â’r Almaenwyr a feddiannai’r wlad gan geisio ym 1941 cymell orgraff newydd arbennig – a adnabyddid yn gyffredin fel ZH – fel iaith swyddogol gwladwriaeth ddibynnol ar yr Almaen natsïaidd. Trôdd mantol y rhyfel yn fuan a chollodd y sawl a gefnogodd orgraff y ZH pob bri ar ôl 1944 o achos eu hymlyniad amhoblogaidd i gydweithredu â’r Almaenwyr yn ystod y rhyfel. O ganlyniad bu’r mudiad iaith Lydaweg yn hollt er 1945 ac ynghlwm mewn dadl orgraffyddol waeth a ymffyrnigodd ar ôl i orgraff newydd arall ymddangos a gynigwyd gan athro prifysgol ym 1955 ac a adnabyddid fel ‘orgraff y brifysgol’. Aeth hi’n ‘rhyfel’ orgraffyddol rhwng dwy garfan,’rhyfel’ a wenwynodd y bywyd diwylliannol Llydaweg tan, o’r diwedd, i drafodaethau ddechrau rhwng y ddwy ochr ym 1971–75. Profodd y trafodaethau yn ddiganlyniad heblaw am ymddangosiad orgraff newydd – a adnabyddid fel SS. Canlyniad y methiant i ddod o hyd i ateb foddhaol i gonfensiynau sbelian y Llydaweg yw bod y dydd heddiw rhyw dair orgraff safonol, pob un a’i llyfrau-gramadeg a’i geiriaduron heb anghofio amrywiaethau ar safon rhanbarthol Gwened.

Yn gystal â rhoi cefndir hanesyddol y dadlau orgraffyddol a nodi’r datblygiadau mewn trefn amseryddol, nod y llyfr yw egluro’r gwahaniaethau technegol a saif tu ôl pob confensiwn orgraffyddol ac hefyd y cymelliadau ideolegol a’r rhesymau gwleidyddol am fabwysio pob ‘safon’ orgraffyddol.

Adlewyrcha’r methiant i sefydlu un orgraff fel orgraff safonol y Llydaweg yn ystod yr ugeinfed ganrif fethiant y Llydawyr i gytuno yn wleidyddol yn gymaint ag unrhyw anawsterau hanfodol a achosid gan amrywiaeth dafodieithol neu draddodiad llenyddol gwan. O ganlyniad, dylai’r llyfr hwn brofi o ddiddordeb i haneswyr gwleidyddol ac i ieithyddion y tu faes i Lydaw fel enghraifft o’r anawsterau a gyfyd pan geisir creu hunaniaeth genedlaethol heb gytundeb.

Adolygiadau ac Ymatebion

2012 Bohumil Vykypěl in Linguistica Brunensia cyf.60 tt.291–94

2009 Albert Bock in Keltische Forschungen cyf.4 tt.269–75

2009 Herve Bihan in Hor Yezh cyf.257 tt.44–45

2008 Kevin J. Rottet in Journal of Celtic Language Learning cyf.13 tt.104–10 (hefyd yn 2008 Bro Nevez cyf.108 tt.19–21)

CENTRAL BRETON

1998b (ail-olygiad 1999b) Central Breton, München: Lincom Europa (63 tt). ISBN 3-8958-6121-9 (€33)

Mae’r Llydaweg, a siaredir yn Ffrainc – ynghŷd â’r Gernyweg a’r Gymraeg – yn ddisgynnydd yr hen Frythoneg a siaredid drwy Brydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gan yr ysgrifennwyd am y Llydaweg gan amla yn Ffrangeg, rhwydd deall i’r Llydaweg gael ei hesgeuluso gan ieithyddion Celtaidd sydd – drwy’r drefn sydd ohoni – yn tueddu ar y cyfan i fod yn siaradwyr Saesneg. Rhanna’r Llydaweg sawl nodwedd gyda’r haen ieithoedd Celteg-newydd eraill, ond mae o ddiddordeb arbennig i’r ieithydd cyffredinol gan taw hi yw’r unig iaith Gelteg a ddatblygodd yn hollol tu hwnt i ddylanwad y Saesneg.

Dros y canrifoedd mae tra-arglwyddiaeth y Ffrangeg, iaith y wladwriaeth er yr Oesau Canol, yn raddol raddol wedi erydu gafael y Llydaweg ar haenau ucha’r gymdeithas. Gwelwyd penllanw’r broses hon gyda pheidio trosglwyddo’r iaith i’r cenhedlaethau ieua yn y cyfnod a ddaeth yn sgîl rhyfel 1939–45, gyda’r canlyniad fod y gymdeithas Lydaweg gyfoes yn diodde dirywiad esbonyddol terfynol fel iaith cymdeithas gyfan. Mae ei dirywiad ymysg y rhai mwya trawiadol a welwyd yng ngorllewin Ewrop yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Rhydd yr awdur, sy’n siarad Llydaweg o’r crud, ddisgrifiad Llydaweg lafar canolbarth Gorllewin Llydaw, sydd – yn baradocsaidd – yn un o’r tafodieithoedd Llydaweg mwya cynrychioladwy, ond hefyd yn un o’r tafodieithoedd a esgeuluswyd fwya mewn gweithiau llenyddol ac ysgolheigaidd. Mae’r llyfr yn cynnwys penodau ar seinyddiaeth, morffoleg a chystrawen, yn ogystal â darn o ryddiaith wedi’i gyfieithu’n ddadansoddol.

addenda & corrigenda

LATE CORNISH

1998a (ail-olygiad 1999a) Late Cornish, München: Lincom Europa (73 tt). ISBN 3-8958-6122-7 (€33)

Roedd y Gernyweg, a siaredid yn ne-orllewin Prydain tan y ddeunawfed ganrif – fel y Llydaweg a’r Gymraeg – yn ddisgynnydd uniongyrchol yr hen Frythoneg a siaredid drwy Brydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gan na fu’r Gernwyeg erioed mor bwysig o ran niferoedd ei siaradwyr a’r ddwy iaith arall, nid yw hi’n syndod iddi gael ei hesgeuluso gan ieithyddion Celteg, fodd bynnag, mae ei safle rhwng Llydaw a Chymru yn ei gwneud yn arbennig o ddiddorol o safbwynt datblygiad tafodieithol yr hen Frythoneg.

Ers y Canol Oesau mae tra-arglwyddiaeth y Saesneg, iaith y wladwriaeth, wedi erydu gafael y Gernyweg ar haenau ucha cymdeithas, gan arwain at ei diflaniad fel iaith gymdeithas gyfan yn nechrau’r ddeunawfed ganrif. Dangoswyd llawer o ddiddordeb yn yr iaith yn yr ugeinfed ganrif, diddordeb sydd wedi arwain at adfywiad o’r iaith fel cyfrwng llafar ymysg rhai brwdfrydigion, er fod natur union berthynas y Gernyweg atgyfodedig hyn a ffurfiau cynharach yr iaith yn destun dadlau.

Rhydd yr awdur, sy’n siarad Llydaweg a’r Gymraeg o ddyddiau ei blentyndod cynnar, ddisgrifiad o Gernyweg lafar yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed, cyfnod yn hanes yr iaith a gollfernir gan sawl ysgolhaig – yn rhy fyrbwyll – fel un llwgr, ond un a adawodd y rhan fwya o’r rhyddiaith sydd ar glawr. Mae’r llyfr yn cynnwys penodau ar seinyddiaeth, morffoleg a chystrawen, yn ogystal â darnau o ryddiaith wedi’u cyfieithu’n ddadansoddol.

addenda & corrigenda

THE EVOLUTION OF WELSH- AND CORNISH-ENGLISH ...

2003b ‘The evolution of Welsh- and Cornish-English phonology in the Early Modern Period’ in Hildegard L. C. Tristram (gol.), Celtic Englishes III, Heidelberg: Carl Winter, tt.240-59.

Yn yr erthygl hon trafodir y nodweddion seinyddol hynny o’r Saesneg llafar a siaredir yng Nghymru ac yng Nghernyw y gellir eu priodoli i ddylanwad y Gymraeg a’r Gernyweg (o hyn ymlaen, er mwyn hwylustod, ‘Saesneg-Celtaidd). Ymdrinia â’r pwnc drwy edrych ar nodweddion seinyddol Saesneg cyfoes Cymru a Chernyw a ellir ystyried fel gwyriadau o nodweddion Saesneg cyffredin cyfoes. Cyfeirir hefyd at dystiolaeth sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen a all fod o gymorth i ddeall y ffordd y mabwysid y Saesneg gan siaradwyr ieithoedd Celteg. Ffynhonnell arall yw fy nhystiolaeth bersonol i o newid seinyddol ar gerdded mewn Saesneg-Cymreig a Saesneg-Cernywig cyfoes (gan gynnwys tystiolaeth gyfatebol o Ffrangeg-Llydewig).

Gobeithir dangos:

  • na fydd Saesneg-Celtaidd un cyfnod byth yr un ffunud â Saesneg-Celtaidd cyfnod arall.
  • fod sawl nodwedd mewn Saesneg-Celtaidd na ellir ei phriodoli’n unig i’r Saesneg nag i’r Gelteg.
  • nad yw rhai nodweddion seinyddol yn hanu nag o’r iaith Geltaidd frodorol nag o’r Saesneg mewnfudol, ond o’r cydadweithio rhwng dwy sustem seinyddol wrth iddyn nhw ddod i gyfathrach a’i gilydd.
  • fod nodweddion seinyddol nodweddiadol Saesneg-Celtaidd yn deillio o ffynonellau cymysg (hynny yw, mewn rhai achosion bodolant oherwydd cadw ffurf hynafol ar ynganiad y Saesneg, ond mewn achosion eraill oherwydd cadw gwerth seinyddol gwaelodol y Gelteg).

er mwyn darllen yr erthygl

*

SEINEG A THAFODIEITHEG YR WYDDELEG

A PRACTICAL PHONETIC DESCRIPTION OF ULSTER IRISH GAELIC

ar y gweill A Practical Phonetic Description of Ulster Irish Gaelic, i'w gyhoeddi gan Catamanus (500+ tt).

Amcan y llyfr hyn yw helpu dysgwyr ac athrawon yr iaith trwy ddarparu disgrifiad cyfoes o ynganiad Gwyddeleg ogledd-orllewin sir Ddonegal yn yr Iwerddon. Yn fwy penodol, lleolir yr ardal dan sylw rhwng trefi marchnad An Fál Carrach (Falcarragh) ac An Clochán Liath (Dungloe) ar y tir mawr – heb anghofio ynys Toraigh (Tory) –, ardal sy wedi cael ei bedyddio Na Trí Pharáiste ‘Y Tri Phlwyf’ (wedi byrfoddi TP). Dyma’r ardal fwya sy’n weddill yn sir Ddonegal – ac yn wir yng ngogledd yr Iwerddon – manlle ceidw’r iaith frodorol ei bywiogrwydd a hithau’n iaith pob cenhedlaeth hyd heddiw.

Mae Gwyddeleg yr ardal hon yn arbennig o ddiddorol am y rhesymau a ganlyn:

  • saif cymeriad Gwyddeleg Na Trí Pharáiste yn union hanner ffordd rhwng Gwyddeleg Conamara a thafodieithoedd Gwyddeleg yr Alban is a Gaelic, ac mae ei nhodweddion, yn amlach na pheidio, yn debyg o gytuno â Gwyddeleg yr Alban yn gymaint a thafodieithoedd Gwyddeleg de’r Iwerddon;
  • ynganiad y fath hyn o Wyddeleg a ddisgrifir yw ynganiad y ail gorff mwya o siaradwyr Gwyddeleg cyfoes sy’n bodoli yn dilyn Gwyddeleg Conamara (sir Galway) a dyma hefyd heddiw y fersiwn fwya amlwg o Wyddeleg frodorol Wlster a ellir clywed ar y cyfryngau clyweledol;
  • er mor gyfyng, mae ardal Na Trí Pharáiste yn cynnwys ardaloedd neilltuol gyda nodweddion iaith eu hunain; gwahaniaethau go iawn a adnabyddir gan y siaradwyr ond tafodieithoedd sy hefyd yn dangos arwyddion cynyddol o gydymdreiddio nid yn unig a’i gilydd ond hefyd gydag ymyrraeth gynyddol ffurf ogledd Iwerddon ar y Saesneg;
  • mae tystiolaeth o newidiadau seinegol pwysig rhwng y cenhedlaethau oddi fewn i Wyddeleg Na Trí Pharáiste, nid yn unig diolch i ymyrraeth y Saesneg ond hefyd oddi fewn i’r fframwaith ffonolegol frodorol;
  • yng ngolau ei gyflenwad (inventory) anarferol o helaeth o gytseiniaid a llafariaid, mae Gwyddeleg amrywiol a chyfnewidiol Na Trí Pharáiste yn ‘dafodiaith’ ddelfrydol i ddangos bod y syniad strwythurol clasurol o sefydlu cyflenwad ffonemig unfryd ar seiliau gwrthrychol yn weithred rhithiol sy ddim yn cysylltu â gwirionedd yr iaith fel y’i siaredir a’i phrofir gan ei siaradwyr;
  • er yr holl ddisgrifiadau a wnawd ar Wyddeleg sir Ddonegal oddi ar cyfnod gwaith arloesol Quiggin ym 1906, nid oes un astudiaeth seinegol wedi canolbwyntio ar gnewyllyn y berfeddwlad Wyddeleg hyn, sef ardal led-drefol a chanolog Gaoth Dobhair (Gweedore). Canlyniad hyn yw bod y rhan fwya o’r cyhoeddiadau eitha niferus o Wyddeleg sir Ddonegal yn ddisgrifiadau o dafodieithoedd ymylol ac o genhedlaeth sy ddim rhagor yn cynrychioli’r iaith fel y’i chlywir yn gyffredin gan adael pobl o’r tu faes heb unrhyw gyfarwyddyd ysgrifenedig defnyddiol ar siẁd i ynganu y fath hyn o Wyddeleg.

Dyma’r ail astudiaeth ddeinamig o dafodiaith Wyddeleg ar ôl Irish of Iorras Aithneach, Co. Galway (2007) Brian Ó Curnáin (er nad yw yn ceisio bod mor hollgynhwysfawr â hwnnw, gan gyfyngu ei sylw i agweddau seinegol a ffonolegol yr iaith). Dangosir nad oes un sustem fel y cyfryw yng Ngwyddeleg Na Trí Pharáiste, ond myrdd o sustemau ieithyddol sy’n cydfodoli ochr-yn-ochr ar leflau ieithyddol gwahanol sy wrthi’n fythol-ymrafael mewn ‘brwydr’ i sustemeiddio iaith yr ardal hwnnw. Astudir cyfuchliniau deinamig (dynamic contours) Gwyddeleg Na Trí Pharáiste er mwyn sefydlu pa ffurfiau sy’n enciliol a pha rai sy’n ymledol. Deillir y deunydd ieithyddol a astudir o enghreifftiau go iawn o iaith lafar a ddadansoddir mewn modd ffwythiannol gan gymryd gofal mawr i wahaniaethu ffurfiau cynrychiadol o’r iaith lafar oddi wrth ffurfiau cynrychiadol o’r iaith lenyddol swyddogol.

Mae’r gwaith hyn yn debyg o fod yn bwysig er hyrwyddo egwyddor damcaniaeth ffonolegol trwy brofi rhagoriaeth dyalltwriaeth deinamig o sustemau ffonolegol ar waith ar draul cysyniad cyflenwad ffonemig yr ieithyddion strwythurol clasurol sy’n cadw ei statws fel y patrwm penna i ddyall seiniau iaith ymysg trwch yr ieithyddion. Awgryma canfyddiadau rhagarweiniol yr ymchwil y gall Gwyddeleg draddodiadol a chyfoes Na Trí Pharáiste, fel y’i siaredir, darparu llawer i brawf, mewn termau gwrthrychol, fod penodi cyflenwad ffonemig arwahanol (discrete) o seiniau yn gamarweiniol mor belled ag y mae cynrychioli’r iaith go iawn fel y’i siaredir.

adol. THE IRISH OF IORRAS AITHNEACH (2007)

2012 Erthygl-adolygiad ar Brian Ó Curnáin (2007) The Irish of Iorras Aithneach, County Galway, Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, in Journal of Celtic Linguistics cyf.14 tt.130–51

*

ENWAU AC ENWAU LLEFYDD CYMRAEG

THE PLACE-NAMES OF CARDIGANSHIRE

2004a The Place-names of Cardiganshire, Oxford: Archaeopress (cxxx + 1397 tt.) ISBN 1-8417-1665-0 (£105)

Dyma gasgliad o 15,000 o enwau llefydd o sir Aberteifi (Ceredigion), sy’n gorchuddio tua’r ddegfed ran o arwynebedd Cymru, ac a gasglwyd dros gyfnod o bymtheg mlynedd. Roedd yn rhan o ddoethuriaeth a gyflwynwyd i Brifysgol Cymru ym 1998 (Abertawe) – yr Athro Brynley Roberts o Brifysgol Cymru a Dr. Oliver Padel o Brifysgol Caergrawnt oedd y ddau arholwr. Cynnwys 1533 tudalen (gan gynnwys y rhagymadrodd a’r llyfryddiaeth 130 tt a chorpws 1403 tt).

Bu’r awdur wrthi’n holi hen frodorion ar hyd ac ar draws y sir ac hefyd yn crynhoi pob darn o wybodaeth ysgrifenedig mewn dogfennau hanesyddol. Cyflwynir y wybodaeth fel parthiadur (S. ‘topographical dictionary’), gyda’r mwyafrif llethol o ben-geiriau wedi eu gosod o dan yr enw plwyf perthynol (heblaw afonydd a chynteddau o dir sy’n rhychwantu mwy nag un plwyf). Dilynir pob pen-gair gan:

  • gyfeiriad grid mapiau’r llywodraeth
  • ddadansoddiad geirfaol o’r enw lle
  • trawsysgrifiad seinegol (IPA) o’r ynganiad lleol (pan yn bosibl)
  • ffurfiau hanesyddol
  • drafodaeth o ystyr yr enw lle (pan yn ofynnol)

Er y gellir cymharu The Place-names of Cardiganshire (PNCards) yn fras â llyfr B. G. Charles The Place-names of Pembrokeshire (1992) a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, mae PNCards yn dipyn mwy modern ei gynnwys a’i ddiwyg. Gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau lyfr yw bod PNCards yn rhoi gwybodaeth fanwl am leoliad yr enw ynghyd â’r ynganiad lleol – dau beth o bwys mawr i’r sawl a fynno ddadansoddi enwau llefydd tywyll eu hystyr.

Heblaw am y cyfoeth o groesgyfeiriadau defnyddiol mewn sawl maes ymchwil sy’n ddisgwyliedig mewn llyfr ar enwau llefydd, mae PNCards yn llyfr sy’n torri tir newydd mewn astudio enwau llefydd Cymru. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cyflwyno dulliau newydd o ddadansoddi enwau llefydd. Mae hefyd yn rhagori ar ddulliau ‘traddodiadol’ a bwysleisiai’r safbwynt philolegol yn unig, gan anwybyddu’r manteision amlwg a ddeilliai o astudio o safbwyntiau daearyddol, hanesyddol, ac wrth gwrs ieithyddol. Canfyddir y dulliau newydd – yn rhannol neu’n gyflawn – mewn ambell lyfr ar enwau llefydd a gyhoeddwyd yn y gwledydd Celtaidd yn y blynyddoedd diwethaf, e.e. A. Watson & E. Allen (1984) a R. A. V. Cox (1987) yn yr Alban; S. Ó Catháin (1966, 1975), a B. Ó Ciobháin (1985) yn Iwerddon; M. Madeg (1990–97) yn Llydaw; a G. Broderick (1994–95) yn Ynys Manaw. Ar hyn o bryd, cyn belled ag y mae astudio enwau llefydd yn y cwestiwn, mae Cymru, yn gyffredinol, ar ei hôl hi, er fod arwyddion bod y datblygiadau newydd yn y maes yn dechrau effeithio ar ambell i astudiaeth yng Nghymru, e.e. I. Dafydd (1980), H. W. Owen (1997).

Ers tro byd – y 1930au â bod yn gywir – bu lleisiau yng Nghymru yn ceisio darbwyllo ysgolheigion Cymru i weithredu dulliau trefnus a chynhwysfawr yr English Place-name Society (EPNS) yn Lloegr o gyhoeddi gwaith ar enwau llefydd, ac er bod Cymru yn dal heb unrhyw beth a ellid ei chymharu â’r gyfres o gyfeirlyfrau tebyg i rai yr EPNS, mae hi’n fater cwbl wahanol i ddilyn ei modd cyflwyno, ei dulliau a chanllawiau eraill yr EPNS yn anfeirniadol fel patrwm na ellir gwella arno. Ar hyn o bryd mae astudiaethau enwau llefydd yn Lloegr yn fwrlwm o ddatblygiadau newydd ac o ddadlau.

[SYLWADAU CHWANEGOL O 2015: Mae'r ddau baragraff diwetha'n cyfleu'r syniad y byddai disgyblaeth astudiaethau enwau llefydd yn camu ymlaen yn ôl cyhoeddi ymchwil newydd a fyddai'n datblygu'r ddisgyblaeth i gynnwys amcanion mwy uchelgeisiol. Yn anffodus, heddiw, mae astudiaethau enwau llefydd yn dal i gael ei reoli gan feddylfryd sy'n arddel tarddiadau geirfaol gan osgoi dulliau mwy cyfannol i ddyall enwi llefydd fel deilliant y gymdeithas ddynol. Ac er y rhaid adde bod cofnodi methodegol lleoliad enwau llefydd wedi gwella'n ddirfawr yng nghylchoedd astudiaethau enwau llefydd Prydeinig, mae corffori gwaith maes methodegol ymysg poblogaethau lleol a thrawsysgrifo seinegol yn dal i gael eu hanwybyddu neu eu diraddio i rywbeth ymylol gan y rhan fwya o astudwyr enwau llefydd. Mae'r astudiwr enwau llefydd cyffredin yn greadur sy'n byw yng nghysgod llyfrgelloedd ac archifdai ac yn mentro ond yn anaml i gynaeafu y dreftadaeth annirweddol – ond eto digon presennol – o enwau llefydd a geir eto ymysg poblogaethau lleol am rai flynyddau i ddod.]

Adolygiadau ac Ymatebion

Di-enw 2001 (Ymateb i Ddi-enw 2001)

T. James 2005

R. Morgan 2005 (Ymateb i R. Morgan 2005)

S. Taylor 2006

S. Suggett 2006

addenda & corrigenda

THE WELSH PERSONAL-NAME SYSTEM

2006b ‘The Welsh personal-name system: a survey of their evolution through the ages’, in Zunamen: Zeitschrift für Namenforschung cyf.1 tt.147–74

DAS WALISISCHE PERSONENNAMENSYSTEM

2007c ‘Das walisische Personennamensystem’, in Andrea Brendler & Silvio Brendler (gol.) Europäische Personennamensysteme: Ein Handbuch (Series: Lehr- und Handbücher zur Onomastik 2), Hamburg: Baar, tt.816–34

Fersiwn rhywfaint yn fyrrach na 2006b.

adol. DICTIONARY OF THE PLACE-NAMES OF WALES (2007)

2009b Adolygiad ar Hywel Wyn Owen & Richard Morgan (2007) Dictionary of the Place-names of Wales. Llandysul: Gomer, in Archaeologia Cambrensis cyf.156 tt.185–87

er mwyn darllen yr adolygiad

CASGLU ENWAU LLEOEDD

2007b ‘Casglu enwau lleoedd’ ar wefan yn cyd-fynd â chyfres 5-rhan ‘What’s in a Name? / Beth sy’ mewn Enw?’ BBC Wales (fersiwn ddwyieithog), darlledwyd Mai-Mehefin 2007.

URL: www.bbc.co.uk/cymru/bethsymewnenw/sites/erthyglau/pages/prosiectau.shtml

Am gyfnod, bu dau o'm cyfraniadau teledol yn trafod yr enwau llefydd 'Betwsbledrwys' a 'Llanddewi Brefi' ar gael ar wefan BBC Wales 'What's in a Name?'.

LLEFYDD A LLEOEDD

2010 ‘Llefydd a lleoedd’ ar wefan Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

URL: www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org/?page_id=158

Y TIRWEDD MUD

2011 ‘Y tirwedd mud: tir heb enwau’, in Y Naturiaethwr (ail gyfres) rh.28 tt.24–27

TOPONYMY AND LAND-USE IN THE DOETHÏE VALLEY

2009a ‘Toponymy and land-use in the uplands of the Doethïe valley (Cardiganshire)’, in Heather James & Patricia Moore (gol.) Carmarthenshire and Beyond: Studies in History and Archaeology in Memory of Terry James, Carmarthen: Carmarthenshire Antiquarian Society, tt.270–83

TRANSHUMANCE IN THE BRITISH ISLES …

2004d ‘Transhumance in the British Isles: decline or transformation?’ D. Gwyn L. Jones & I. Ll. Wmffre (cydawduron) in Robert G. H. Bunce & Marta Pérez Soba & Rob H. G. Jongman & Antonio Gómez & Felix Herzog & Ingvild Austad (gol.) Transhumance and Biodiversity in European Mountains, Wageningen: IALE (International Association for Landscape Ecology), tt.69–89. Traddodion y Transhumount Review Conference a gynhaliwyd yn Alcalá-de-Henares, Sbaen, Medi 2003.

Roedd symudiadau tymhorol o dda byw gyda’u bugeiliaid yn ddigwyddiad cyffredin mewn sawl ardal ar yr ynysoedd Prydeinig yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, mae mudo tymhorol y bugeiliaid wedi llwyr ddarfod, er y deil y tymoroldeb tyfiannol ar borfeydd lled-naturiol sy’n sylfaen i fudo tymhorol (transhumance) i fod yn bwysig i dda byw ar y porfeydd hynny na wellwyd. Yr ydym yn trafod hanes mudo tymhorol da byw, y rhesymau pam y datblygodd a’r ffactorau a arweiniodd at newid. Yr ydym yn tynnu sylw at y bylchau yn ein gwybodaeth am fudo tymhorol da byw yn y gorffennol.

Er mwyn hwylustod gellir rhannu mudo tymhorol da byw y dydd heddiw rhwng mudo lleol a mudo pellennig. Yr ydym yn awgrymu bod yr ail yn ddatblygiad modern ac yn rhoi enghreifftiau o fudo tymhorol cyfoes o Ynys Skye yn yr Alban.

er mwyn darllen y llyfr a'r adolygiad

*

ENWAU AC ENWAU LLEFYDD LLYDAWEG

*

CYMDEITHASEG IAITH GELTAIDD

IDEOLOGY AND THE LEARNING OF CELTIC LANGUAGES

2006a ‘Ideology and the learning of Celtic languages’ in Fabio Mugnaini & Pádraig Ó Héalaí & Tok Thompson (gol.) The Past in the Present: a Multidisciplinary Approach, Catania: Edit, tt.235–57. Traddodion cynhadledd ‘The Past in the Present: Tradition in a Changing World’ y ‘Coimbra Group’ a gynhaliwyd yn Mhrifysgol Genedlaethol yr Iwerddon, Galway, 23–25.09.2004

er mwyn darllen yr erthygl

LEARNERS, NATIVE SPEAKERS AND THE AUTHENTICITY OF LANGUAGE

2004c ‘Learners, native speakers and the authenticity of language’ in Ullrich Kockel & Máiréad Nic Craith (gol.) Communicating Cultures, Münster: Lit, tt.149–75. Traddodion y gynhadledd ‘Communicating Cultures’ a gynhaliwyd ym Melfast ym Mehefin 2002

Awgryma’r cynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu’r ieithoedd Celtaidd trwy addysg fod dirywiad hir a thrychinebus yr ieithoedd hyn yn dirwyn i ben ac yn addo gobaith o’r newydd i garedigion yr ieithoedd hynny. Fodd bynnag, mewn sawl achos mae cynnydd ieithyddol trwy addysg wedi arwain at ymddangosiad carfan o ‘ddysgwyr’ ar wahân a heb gyswllt cadarn â chymdeithas y siaradwyr cynhwynol.

Canolbwyntia’r erthygl hon ar y gwahaniaethau ieithyddol rhwng dysgwyr a siaradwyr cynhwynol yn Llydaw, Cymru, Iwerddon a’r Alban gan drafod pwysigrwydd y gwrthgyferbyniadau rhwng y ddwy garfan a goblygiadau’r fath wrthgyferbyniadau. Bydd erthygl arall yn trafod y syniadaethau, agweddau a safbwyntiau gwahanol sydd ynghlwm â chwestiwn y dysgwyr.

er mwyn darllen yr erthygl

IS SOCIETAL BILINGUALISM SUSTAINABLE? ...

2001 ‘Is societal bilingualism sustainable?: reflections and indications from the Celtic countries’ in Helmut Eberhart & Ulrika Wolf-Knuts (gol.) Migration, Minorities, Compensation: Issues of Cultural Identity in Europe, Brussels: The Coimbra Group Working Party for Folklore and European Ethnology, tt.121–42

Mae cytundeb cyffredinol wedi ymsefydlu ei hunan yng ngorllewin Ewrop fod dwyieithrwydd nid yn unig yn dda ond yn ddymunol. Prif ergyd yr erthygl hon yw dadansoddi a beirniadu y syniad hwn. Gwneir hyn drwy ddiffinio ystyr ‘dwyieithrwydd’, gair sy’n llawer rhy agored i amwysedd, ac wrth gyflwyno ffeithiau – yn rhai gymdeithasol ac hanesyddol – i ddarlunio’r ffordd mae ‘dwyieithrwydd’ yn gweithredu ar gyrion Celtaidd gogledd-orllewin Ewrop (Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Manaw, Yr Alban).

Gobeithir y bydd y feirniadaeth sydd ymhlŷg yn yr erthygl hon yn fodd i ddod i ddeall yn well y ffordd y gall dwy iaith gydfodoli ac y bydd yn fuddiol i’r rhai sy’n cynllunio polisïau amlieithog drwy awgrymu ffyrdd mwy effeithiol a llai gwastraffus i weithredu.

er mwyn darllen yr erthygl

URBAN CELTIC SUBCULTURES 1700–1850

2002a ‘Urban Celtic subcultures 1700–1850’ in Raingard Esser & Thomas Fuchs (gol.) Kulturmetropolen - Metropolenkultur: die Stadt als Kommunikationsraum in 18. Jahrhundert, Berlin: BWV, tt.29–58

Amcan yr erthygl hon yw amlygu rhai datblygiadau a berthyn i’r lleiafrifoedd cenedlaethol Celtaidd mewn dinasoedd estronol cyn cychwyn y cynnydd diwydiannol a newidiodd cymeriad Ewrop yn y cyfnod a ddilynodd 1750. Dewisiwyd astudio’r cyfnod o 1700 i 1850, gan gyfiawnhau diweddu yno, rhywfaint yn oddrychol, drwy sefydliad y rhwydwaith rheilffyrdd, addysg cyffredinol a chynnydd effeithiau cymdeithasol datblygiadau technolegol. O achos diffyg cyffredinol y dystiolaeth yn sôn am brofiadau y Celtiaid wrth addasu i amgylchedd newydd y ddinas yn y cyfnod mentrwyd dyfynnu tystiolaeth o gyfnodau eraill. Mae hyn yn arbennig o wir am sefyllfa Ffrainc a deimlodd effeithiau’r chwyldro diwydiannol tua chan mlynedd yn ddiweddarach na Phrydain. Gan hynny eir hyd 1900 gyda’r dystiolaeth ynglŷn â’r Llydawiaid ym Mharis, ond er gwaetha’r dyddiad diweddarach, gobeithir y gellir dangos bod cymaroldeb profiad y Llydawiaid i brofiad y Celtiaid eraill ym Mhrydain yn drech na pharchu ystyriaethau amseryddol yn unig.

er mwyn darllen yr erthygl

adol. WELSH DICTIONARIES IN THE TWENTIETH CENTURY (2003, 2nd edn)

2006c Erthygl-adolygiad ar Sabine Heinz (2003, ail-olygiad) Welsh Dictionaries in the Twentieth Century: a Critical Analysis, München: Lincom Europa, in Journal of Celtic Linguistics cyf.10 tt.121–37

IWERDDON A CHYMRU

1991 ‘Iwerddon a Chymru’ in Tafod y Ddraig rh.231 tt.15–16

Astudiaeth gymharol o sefyllfa yr Wyddeleg a’r Gymraeg sydd – yn wahanol i amgyffrediad cyffredin yng Nghymru – yn pwysleisio’r ffaith fod y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn fwy na’r dirywiad yn nifer y siaradwyr Gwyddeleg yn ystod yr ugeinfed ganrif.

*

Y CANOL OESAU A’R HENFYD

POST-ROMAN IRISH SETTLEMENT IN WALES ...

2007b ‘Post-Roman Irish settlements in Wales: new insights from a recent study of Cardiganshire place-names’, in Karen Jankulak & Jonathan Wooding (gol.), Ireland and Wales in the Middle Ages, Dublin: Four Courts Press, tt.46–61

Yn yr erthygl hon crynhoir gwaith hanesyddol a hengofion gwerinol parthed trefedigaethu’r Gwyddelod yng Nghymru yn ystod y bumed a’r chweched ganrif. Â ymlaen yn fanylach i drafod tystiolaeth enwau llefydd. Daw i’r casgliad nad oes enwau llefydd Gwyddeleg fel y cyfryw yng Nghymru, ac na ellir derbyn elfennau mewn enwau llefydd – fel cnwc a meudr) - yn eiriau Gwyddeleg y tu hwnt i bob amheuaeth. Ar ben hynny, ar ôl trafod y cysyniad o ‘gyfatebiaeth seinyddol’ (phonological coequivalence) rhwng ieithoedd cytras mewn cyd-berthynas â’i gilydd dangosir yn eglur na all cnwc fod yn gyfoes â chyfnod y trefedigaethau Gwyddelig, ac os digwydd bod yn Wyddeleg, rhaid ei fod yn fenthyciad llawer diweddarach. Y casgliad cyffredinol, felly, yw na all tystiolaeth enwau llefydd bod o fudd wrth geisio canfod patrwm yr anheddu Gwyddelig yn yr Oesau Tywyll.

er mwyn darllen fersiwn gyngyhoeddedig

PENRHYN BLATHAON ...

2004b ‘Penrhyn Blathaon ac amgyffred yr hen Gymry o eithafion gogledd Prydain’ in Studia Celtica cyf.38 tt.59–68.

Sonnir am ffurf a tharddiant yr enw Blathaon ar benrhyn eitha gogledd ynys Brydain. Dadleuir taw ffurf hen ddihennydd sydd wrth wraidd yr enw hwn. Y tebyg yw taw Balawon (Balaon Llyfr Taliesin t.70 ll.22) oedd y ffurf gynhenid a bod hon yn cyfateb o ran ystyr i’r Aeleg Cataibh (S. Caithness) ac yn wir yn ei rhagflaenu.

Yn chwaneg cynigir eglurhad ar y ffurf Blathaon a deifl fwy o oleuni ar y ffordd y traddodwyd hengofion i’r corff testunau Cymraeg Canol sydd heddiw ar glawr gan gefnogi awgrymiadau a wnawd eisiwys gan ysgolheigion eraill fel Graham Isaac (1991) a Helen McKee (2000). O ddilyn y ddadl sylfaenol a gynigir yma gwelwn y cadwyd rhai traddodiadau gwir hen a dilys gan Gymry’r Canol Oesau o’r adeg pan oedd ffurf fwy henafol o’r Gymraeg yn ymestyn drwy Brydain gyfan.

er mwyn darllen yr erthygl

MYNYDAWC – RULER OF EDINBURGH?

2002b ‘Mynydawc – ruler of Edinburgh?’, in Studi Celtici cyf.1 tt.83–105

Yn gytûn â barn ysgolheigaidd gynyddol parthed barddoniaeth y Gododdin (1990 G. R. Isaac; 1993, 1997 J. T. Koch) mae’r erthygl hon yn amau y priodoliad – sydd yn awr bron yn draddodiadol – o Fynydawc fel brenin neu reolwr Dineidyn. Ond, yn wahanol i’r amheuwyr eraill uchod ceisia’r erthygl gynnig y ddamcaniaeth – fel un bosibl – taw cyfeiriad at y Duw Cristnogol sydd ym Mynydawc yn y Gododdin. A thra bod egluro enw Mynydawc yn syml iawn (Cymraeg Cyfoes mynyddog ‘mynyddig’), nid yw hyn yn wir am yr ystyreg o fewn cyd-destun y farddoniaeth. Gan fod llenyddiaeth sydd mor hen â’r Gododdin yn brin, a dweud y lleia, ni wêl yr awdur hi’n rhyfedd fod cyfeiriadau at Dduw fel Mynydawc wedi’u cyfyngu’n gyfangwbl i’r Gododdin yn y llenyddiaeth canol-oesol sydd ar glawr.

Ceisia’r erthygl gynnig casgliadau neu dybiaethau cadarnach parthed ystyr bosibl i Mynydawc yn y Gododdin, enw a fathwyd mewn cyfnod go wahanol i’n cyfnod ni. Wrth gyflwyno’r ddadl mae’r erthygl yn amlygu agwedd ar arysgrifiadau Brythoneg cynnar a anwybyddwyd neu o leia na phwysleisiwyd mohonynt yn ddigonol; yn neilltuol, parthed dehongli yr arysgrif VOTEPORIGIS PROTECTORIS.

er mwyn darllen yr erthygl

adol. THE CELTIC ROOTS OF ENGLISH (2002)

2007g Adolygiad ar Markku Filpulla & Juhani Klemola & Heli Pitkänen (gol.) (2002) The Celtic Roots of English, Joensuu: University of Joensuu, Faculty of Humanities, in Zeitschrift für celtische Philologie cyf.55 tt.308–14

er mwyn darllen yr adolygiad

adol. GWAITH HYWEL SWRDWAL A’I DEULU (2000)

2004e Adolygiad ar Dylan Foster Evans (2000) Gwaith Hywel Swrdwal a’i Deulu, Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, in Zeitschrift für celtische Philologie cyf.54 tt.290–93

er mwyn darllen yr adolygiad

*

PYNCIAU LLENYDDOL CELTAIDD

KOROLL AN ANKOU

1998c Koroll an Ankou, Brest: Brud Nevez – Emgleo Breiz (141 tt). Cyfieithiad i’r Llydaweg o Y Ddawns Angau (1940) gan W. Ambrose Bebb.

Roedd Bebb (1894–1955), un o sefydlwyr Plaid Genedlaethol Cymru, yn llenor o fri yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel ac yn gyfarwydd â Ffrainc yn ogystal â Llydaw yn dilyn arhosiad pum mlynedd ym Mharis ym 1920–25. Yn ystod y cyfnod ffurfiannol hwn daeth yn gyfarwydd â nifer o arweinwyr diwylliannol a gwleidyddol mudiad Llydewig y cyfnod. Ysgrifennodd llawer o erthyglau am sefyllfa Llydaw yn y cyfnod gan gynnwys dau lyfr Llydaw (1929) a Pererindodau (1941).

Ond efallai taw llyfr arall, un byrrach, Y Ddawns Angau, a gyhoeddwyd ym 1940, sydd yn ôl pob tebyg yn ffurfio ei gyfraniad mwya cofiadwy i lenyddiaeth Cymraeg. Mae’r llyfr hwn yn torri tir newydd oddi mewn i lenyddiaeth Gymraeg gan ei fod yn ‘reportage’ o ddigwyddiadau cyffrous Ewropeaidd cyfoes ac hefyd ar ffurf dyddiadur (er yr ymgais at lenyddiaeth). Ymweliad byr â Llydaw yn y bythefnos a arweiniodd at ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen ym 1939 yw’r testun. Cwblhaodd yr awdur taith o gylch Llydaw lle yr ymwelodd â chenedlaetholwyr Llydewig amlwg a gweithredwyr diwylliannol (ffôdd dau i’r Almaen cwta bedwar diwrnod ar ôl i Bebb gwrdd â nhw a dedfrydrwyd nhw i farwolaeth yn eu habsenoldeb gan lywodraeth Ffrainc).

Cynnwys y cyfieithiad hwn rhagymadrodd sy’n manylu ar gefndir Bebb a’i ymwneud â Llydaw er 1920, a ddilynir gan erthygl yn adrodd yr hyn a ddigwyddodd i lawer o’r bobl yr ymwelodd Bebb â nhw. Oherwydd y rhyfel roedd cyfathrebu rhwng Cymru a Llydaw yn amhosibl tan 1945, a bu’r blynyddau o feddiannaeth Almaenig yn fodd i hollti’r mudiad Llydewig yn llwyr fel nad yw hi hyd yn oed heddiw, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, wedi cyfannu. Trist dweud na fu Bebb, a oedd yn ymwybodol o’r tensiynau a gynheuwyd yn ystod y rhyfel, erioed eto ar ymweliad â Llydaw. Ystyrid e’n fradwr neu’n sbïwr gan rai ymysg y cenedlaetholwyr Llydewig gan fod cynnwys Y Ddawns Angau wedi’i ddefnyddio yn erbyn y cenedlaetholwyr Llydewig yn ystod y rhyfel ac fel tystiolaeth yn eu herbyn ar ôl ei ddiwedd.

Tu hwnt i’r pwysigrwydd hanesyddol diamheuol sy’n perthyn i’r llyfr mae wedi ei ysgrifennu’n dda ac yn gyforiog o ddarluniadau cyfareddol o Lydaw a Ffrainc gyda phortreadau didwyll a dadlennol o’r ffordd yr ymatebodd llawer o Lydawiaid (y rhai claear yn ogystal â’r rhai brwd dros ‘yr achos’), o Ffrancod ac o Brydeinwyr ar adeg dyngedfennol ar drothwy rhyfel 1939–45.

MARWOLAETH AWDUR

2002c ‘Marwolaeth Awdur’ & ‘Llenor Llydaweg’, yn y misolyn llenyddol Taliesin115 tt.48–65. Cyfieithiad i’r Gymraeg o’r stori-fer ‘Maro eur Skrivagner’ (1998) gan Mikael Madeg.

Stori ddyfeisgar sy’n amlygu’r trafferthion a gaiff awdur creadigol pan na fydd ei waith yn derbyn unrhyw ymateb (boed yn gadarnhaol neu’n negyddol) ac sy’n arbennig o addas i awduron Llydaweg fel Mikael Madeg sy’n gorfod ymdopi â graddfa lythrennedd bitw ymysg y lleiafrif sy’n dal i siarad Llydaweg yn y Llydaw gyfoes ...

Rhoddir cefndir Mikael Madeg a’i farn ar lenyddiaeth drwy gyfrwng y Llydaweg ar ffurf cyfweliad cyfansawdd o dan y pennawd ‘Llenor Llydaweg’.

AR ZONER HAG AR GORNANDONED

Text Holder

1988 ‘Ar zoner hag ar gornandoned’, yn y misolyn llenyddol Brud Nevez rh.111 tt.48–50. Cyfieithiad i’r Llydaweg o chwedl gwerin Llydaweg a gyhoeddwyd yn Ffrangeg.

AR LEO-DREZ & GOUEL AN OLLZENT

1987 ‘Ar Leo-Drez’ & ‘Gouel an Ollzent’, yn y misolyn llenyddol Brud Nevez rh.106 tt.40–44, rh.108 tt.34–37. Cyfieithiadau i’r Llydaweg o chwedlau gwerin Llydaweg a gyhoeddwyd yn Ffrangeg.

ar y gweill CYNI’R GWYDDYL

Cyni’r Gwyddyl Cyfieithiad i’r Gymraeg o An Béal Bocht (1941) gan Myles na gCopaleen (a adnabyddir yn well fel Flann O’Brien, er taw Brian Ó Nualláin oedd ei briod enw).

Cyfieithiad o An Béal Bocht (yn llythrennol ‘Y Geg Dlawd’, neu’n ffigurol ‘Y Plediwr Tlodi’) (1941) gan Myles na gCopaleen (a adnabyddid yn well fel Flann O’Brien, er taw Brian Ó Nualláin oedd ei enw iawn). Portead smala a meistrolgar sydd yn An Béal Bocht yn dychan y darlun rhamantaidd o fywyd traddodiadol gorllewin Iwerddon a gododd ei ben gyda’r adfywiad llenyddol Gwyddeleg ac Eingl-Wyddelig tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mewn cyfres o naw pennod dilynwn ffawd druenus Bónapárt Ó Cúnasa a’i gymdeithas ddioddefgar dragwyddol.

Er ei gyfieithu i nifer o ieithoedd Ewropeaidd (fel arfer ar sail y cyfieithiad Saesneg a wnawd gan Patrick Power ym 1973) mae ei ddigrifwch a’i iaith wedi’u clymu’n annileadwy i iaith a diwylliant traddodiadol y Glân-Wyddelod, yn wir, cymaint nes ei fod yn colli llawer wrth ei gyfieithu. Er mwyn diogelu ei wirionedd cymaint ag oedd modd seiliwyd y cyfieithiad hwn yn llwyr ar y fersiwn wreiddiol Wyddeleg.

Mae An Béal Bocht yn gyflwyniad delfrydol i newyddian o’r dadleuon mawr ynglŷn â hyrwyddo’r Wyddeleg a’r diwylliant traddodiadol Gwyddelig mewn byd sy’n brysur-brysurach seisnigeiddio. Yn ogystal â ffurfio cyfres o sylwadau digri a phigog ar y ‘gwyllion urddasol’ a ramanteiddiwyd, mae’r llyfr hefyd yn feirniadaeth awgrymog ond deifiol o’r ffordd y triniwyd siaradwyr Gwyddeleg fel anifeiliaid gan bolisïau uniaith Saesneg y llywodraethau. Dilynir y cyfieithiad gan erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd gan Iwan Wmffre a Seosamh Mac Muirí lle trafodir bwriadau’r awdur yn ogystal â chefndir hanesyddol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol y siaradwyr Gwyddeleg. A chan fod, o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, y siaradwyr Gwyddeleg yn byw mewn Iwerddon seisnigedig mae’r drafodaeth yn cyffwrdd â chwestiynau pwysig sy’n ymwneud â hunaniaeth genedlaethol y Gwyddelod.

AN BÉAL BOCHT: A CRITIQUE OF IRISH NATIONALISM …

2007d ‘An Béal Bocht: a critique of Irish nationalism, Irish-language literature and the people of the Gaeltacht?’ in Jan Erik Rekdal & Ailbhe Ó Corráin (gol.) Proceedings of the Eighth Symposium of Societas Celtologica Nordica, Uppsala: Uppsala Universitet, tt.275–84. Traddodion sumposiwm a gynhaliwyd yn y Norsk Norske Videnskaps-Akademi, Oslo, 06–07.05.2005.

Fersiwn gryno o'r erthygl sy'n cyd-fynd â'r cyfieithiad Cymraeg - heb eto wedi'i gyhoeddi - o An Béal Bocht (gweler Cyni'r Gwyddyl, uchod).

adol.THE BRAHAN SEER (2009)

2013d Adolygiad ar Alex Sutherland (2009) The Brahan Seer: The Making of a Legend, Oxford: Peter Lang, in Anthropological Journal of European Cultures cyf.22 t.133.