Cyflwyniad
Mae’r wefan hon yn cynnig manylion am fy niddordebau ymchwil.
Rw i’n Gymro ag yn Llydawr fel ei gilydd ond ers rhai blynyddau rw i wedi bod yn trigo yn nheyrnas gudd Inis Eoghain (‘Ynysywain’), penrhyn llydan gwyntog yn eithafion gogledd yr Iwerddon, gyda fy ngwraig Ewa a’n merch fach annwyl.
Mae fy ngwaith cyhoeddedig yn ymdrin â’r pobloedd Celteg eu hiaith – yn enwedig yn y cyfnod Modern, ond rw i hefyd yn hyddysg ar sawl agwedd ar hanes yr Oesau Canol a’r Henfyd – boed ar yr Ynysoedd Prydeinig neu ar gyfandir Ewrop. A dweud y gwir rw i’n hanesydd ag yn ethnolegydd o ran anian er y gellid meddwl fy mod i ‘ond’ yn ieithydd petasech yn dibynnu ar ddarllen teitlau fy llyfrau neu ar gip ar fy ngyrfa broffesiynol. Mae fy niddordebau ieithyddol yn llydan, arbenigaf mewn ieithyddiaeth ddisgrifiadol, amrywio ieithyddol, seineg a chyfieithu.
Thema sylfaenol sy’n ysbrydoli llawer o fy ymchwil yw ymdrech i leddfu’r diffyg cyson sy’n bodoli yn yr ymwybyddiaeth gymdeithasegol neu anthropolegol o gymdeithasau dynol, ac yn fwy penodol diwylliannau sydd wedi’u dominyddu megis rhai y gwledydd Celtaidd y mae eu hanes wedi eu hysgrifennu’n bennaf mewn iaith estron, gyda’r holl camddyall diwylliannol a ddeillia’n sgîl hynny. Heb fanwl-edrych, heb dalu sylw a heb fyfyrio parhaus, ni all hyd yn oed brodorion y diwylliannau hyn ond cynnig dadansoddiad cyfyngedig a rhannol o wirioneddau cymdeithasol y byddant wedi byw trwyddynt ac, wrth i genedlaethau ddilyn ei gilydd, gwelir y gwirioneddau cymdeithasol hyn yn brysur cael eu disodli gan wirioneddau eraill sy’n fythol dod i’r brig. Mae ‘Cynhanes’ yn llythrennol llawer nes atom nag yr ydym yn tybied yn gyffredin – hyd yn oed yn achos diwylliannau sydd ar y brig gyda digon o addewid o ddyfodol ynddynt – ac mae colli’r ymwybyddiaeth hyn o wirioneddau cymdeithasol a diwylliannol gwahanol yn arbennig o gryf mewn achosion lle bydd newidiadau diwylliannol ar raddfa fawr wedi digwydd neu’n parhau i ddigwydd, fel y maent yn dal i wneud yn achos ymylon Celtaidd gogledd-orllewin Ewrop.
Rw i’n fawr obeithio y gall ymwelyddion chwilfrydedig sy’n taro ar y wefan hon ddod o hyd i rywbeth sydd at eu dant.